Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adolygiad o’r flwyddyn 

 

Adroddiad blynyddol

2009 – 2010

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff

sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i

gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl,

i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn

Llywodraeth Cymru i gyfrif.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

www.cynulliadcymru.org

gwybodaeth@cynulliadcymru.org

archebu@cynulliadcymru.org

Ff 0845 010 5500

 

Cymerwch ran ar Facebook, YouTube, Twitter a Flickr.

 

© Hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010

Ceir atgynhyrchu testun y ddogfen hon am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol na difrïol. Rhaid cydnabod mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen.

Cynnwys

 

01–Cyflwyniadau                                                                                       04      

02–Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                                             13

 

03–Deddfwrfa sy’n aeddfedu – degawd o ddatganoli                                25

 

04–Cyflawniadau deddfwriaethol yn ystod y Trydydd Cynulliad                 17

 

05–Adolygiad o’r flwyddyn ddeddfwriaethol hon                                      21

 

06–Dyfodol deddfwriaeth yng Nghymru                                                    25

 

07–Y Pierhead – argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli                                27

 

08–Cynulliad mwy tryloyw                                                                         28

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniadau

 

Rhagair y Llywydd

 

Mae hon wedi bod yn flwyddyn o gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol – cyflawni rhaglen ddeddfwriaethol, cynnwys pobl Cymru yn ein gwaith, a chraffu ar bolisïau a deddfwriaethy Llywodraeth.  

 

Amcanion craidd y Cynulliad Cenedlaethol eleni oedd creu system

o ddemocratiaeth yng Nghymru sy’n fwy agored a thryloyw, yn ogystal ag annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae ein llwyddiant wrth gyflawni’r amcanion hyn yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i greu system fwy tryloyw o lywodraethu yng Nghymru sy’n ymgysylltu ag etholwyr Cymru ac yn adfer hyder mewn gwleidyddiaeth unwaith eto.  

 

Mewn blwyddyn a welodd San Steffan yn cael ergyd drom gan honiadau o anonestrwydd ymysg ei aelodau etholedig, rwy’n falch bod y Cynullid wedi ymateb i’r her yn uniongyrchol.

 

Mae 108 argymhelliad adroddiad panel adolygu annibynnol ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad yn cael eu rhoi ar waith eisoes. 

 

Fel cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, rwyf wedi cael y fraint o arwain

y Mesur Taliadau, a ddaeth yn sgil yr adroddiad, drwy’r Cynulliad, wrth i ni baratoi i ddeddfu er mwyn creu panel taliadau annibynnol a fydd yn gyfrifol am gyflogau Aelodau’r Cynulliad. Pan gaiff ei sefydlu, ni fydd Aelodau’r Cynulliad yn cymryd rhan yn y broses o osod eu cyflogau a’u lwfansau eu hunain. Mae hwn yn hanfodol wrth greu system sydd nid yn unig yn deg a thryloyw, ond sydd hefyd yn rhoi gwerth am arian i bobl Cymru.

 

Yn y flwyddyn a nododd degawd o ddatganoli yng Nghymru, rwy’n falch o fod yn dyst i’r modd y mae’r Cynulliad wedi aeddfedu fel deddfwrfa a sut rydym wedi ymateb i’r her o graffu ar gyfreithiau newydd. Mae ein pwyllgorau deddfwriaeth wedi craffu ar 15 cyfraith wahanol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi’u pasio. Mae’r fath aeddfedrwydd yn gynsail cryf i gyfnod a fydd yn rhoi cyfle, drwy refferendwm, i bobl wneud dewis gwybodus ynghylch ein ffyrdd

o ddeddfu yn y dyfodol.    

 

Rydym wedi datblygu cyfleoedd ar gyfer mwy o ymgysylltu â dinasyddion yng Nghymru. Ym mis Mawrth, ail-agorwyd y Pierhead, yr adeilad nodedig ym Mae Caerdydd, ac mae wedi bod yn atyniad hynod i ymwelwyr; ymwelodd 40,760 o bobl â’r adeilad yn ystod y pedwar mis ers ei agor.

 

Cafodd yr ail-agoriad ei nodi gyda Sesiynau’r Pierhead. Y bwriad oedd annog pobl i drafod pynciau llosg y dydd, yn amrywio o gwestiynau ar y cyfansoddiad i ddyfodol yr amgylchedd.

 

Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan effaith Camu Ymlaen Cymru, ein rhaglen arloesol a rhoddodd gyfle i bobl o grwpiau ethnig a lleiafrifol nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. 

 

Mae’r adolygiad o wasanaethau dwyieithog y Cynulliad, a gynhaliwyd gan banel annibynnol a gadeiriwyd gan Arwel Ellis Owen, wedi ein hymrwymo i greu Cofnod sy’n fwy hygyrch i’r dinesydd, yn ogystal â’n helpu i gyflawni ein hamcan o fod yn sefydliad wirioneddol ddwyieithog.  

 

Ar 9 Chwefror eleni, pleidleisiodd y Cynulliad yn unfrydol o blaid refferendwm ar roi pwerau deddfu ehangach iddo. Rydym yn edrych ymlaen at gael y cyfle i fod yn ffynhonnell o wybodaeth ddiduedd i alluogi pobl Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011 ac yn y refferendwm.  

 

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ni gydnabod yr amodau economaidd anodd sydd o’n blaenau, a’r effaith y caiff y rhain ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithio o fewn cyfyngiadau gwariant cyhoeddus yng Nghymru, gyda dychymyg ac ymrwymiad

i ddefnyddio ein hadnoddau mewn modd call, er mwyn sicrhau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i ddarparu gwasanaethau sy’n deilwng i ddeddfwrfa Cymru.

 

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas CG AC

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhagarweiniad gan y Prif Weithredwr

 

Roedd eleni yn flwyddyn arbennig, gan ein bod yn nodi dengmlwyddiant datganoli a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Oherwydd hyn, mae’r Adroddiad Blynyddol nid yn unig yn rhoi trosolwg o’r flwyddyn a aeth heibio, ond mae hefyd yn edrych yn ôl ar gyflawniadau deddfwriaethol y Cynulliad dros y degawd diwethaf.   

 

Cafodd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Mae gan y Cynulliad tua 360 o staff, sy’n cynnwys timau i gefnogi busnes deddfwriaethol a chraffu ffurfiol y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwilwyr, staff cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a chofnodi, cynghorwyr cyfreithiol, staff gwasanaethau i ymwelwyr ac allgymorth, arbenigwyr addysg a staff cyfathrebu proffesiynol, a’r rheini sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymorth gweithredol, fel diogelwch, adeiladau, adnoddau dynol, cyllid a TGCh. Mae pob un yn cefnogi r Cynulliad yn ei waith o ddydd i ddydd.   

 

Ers dechrau’r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007, mae swyddogaethau a chyfrifoldebau llawer o’n staff wedi newid. Adlewyrchwyd llwyddiant y staff wrth fynd i’r afael â’r heriau newydd hyn yn hyder Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt bleidleisio yn unfrydol, ym mis Chwefror 2010, i gynnal refferendwm ar drosglwyddo pwerau deddfu ehangach i’r Cynulliad. Nid wyf yn credu y byddent wedi ystyried gwneud hynny pe na baent wedi bod yn sicr ynghylch gallu ein staff i ddarparu’r cymorth ymarferol a fyddai’n ofynnol o ganlyniad i gymryd cam o’r fath.

 

Felly, rwy’n awyddus i ddefnyddio proses ddeddfu’r Cynulliad fel enghraifft o sut y mae pobl ar draws y sefydliad wedi ymateb i heriau’r Trydydd Cynulliad, a sut mae eu perfformiad yn aml wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau.  

 

Mae Gwasanaeth y Siambr a Deddfwriaeth yn rhoi cyngor i Aelodau yn uniongyrchol ar bob agwedd ar y broses ddeddfu. Mae hyn yn cynnwys craffu ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (Gorchmynion) ac egwyddorion cyffredinol Mesurau, gwelliannau a chraffu manwl ar Fesurau mewn pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn, craffu ar is-ddeddfwriaeth, a datblygu cynigion deddfwriaethol a gyflwynir gan Aelodau unigol a phwyllgorau. Mae aelodau staff wedi cyrraedd lefel uchel o arbenigedd mewn gweithdrefnau deddfwriaethol yn gyflym, ac mae Aelodau nawr yn derbyn cyngor o’r ansawdd gorau ar bob agwedd ar y broses ddeddfu.

 

Mae rhannau eraill o’r Cynulliad yn gweithio’n agos â Gwasanaeth y Siambr a Deddfwriaeth i gyflawni swyddogaeth y Cynulliad, sef deddfu ar gyfer Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys y Gwasanaethau Cyfreithiol, Gwasanaeth y Pwyllgorau a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, sy’n cynnwys timau o staff sydd â lefel uchel o arbenigedd proffesiynol a gwybodaeth pwnc arbenigol. Un o nodweddion eraill ein proses ddeddfu yw ei bod yn ddwyieithog ym mhob cyfnod, ac yn dibynnu’n drwm ar effeithlonrwydd a sgiliau ein Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi. 

 

 

Mae staff o’r meysydd gwasanaeth hyn hefyd yn gweithio’n agos ag Aelodau a’r pwyllgorau wrth iddynt gyflwyno eu cynigion deddfwriaethol eu hunain; maent yn rhoi cyngor ar bolisi, yn drafftio deddfwriaeth arfaethedig, yn llunio’r memoranda esboniadol ac ariannol angenrheidiol ac yn rhoi cymorth helaeth drwy gydol ein proses ddeddfu.

 

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn darparu gwasanaeth monitro eang sy’n dilyn hynt Gorchmynion, Mesurau a deddfwriaeth y DU sy’n effeithio ar Gymru yn ogystal â’r deunydd mwyaf diweddar a manwl sydd ar gael yn unrhyw le ar ddatblygiad cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae’r gwasanaethau monitro hyn ar gael i’r cyhoedd a sefydliadau allanol yn ogystal ag Aelodau, gan fod ein cyfrifoldeb i roi gwybodaeth i’r cyhoedd, ac ymgysylltu â

hwy, yn rhan annatod o’n swyddogaeth o alluogi craffu cadarn

o’r ddeddfwriaeth ei hun.   

 

Mae ansawdd y gwasanaethau eraill a ddarperir gan y Cynulliad - TGCh, ein hadeiladau sy’n agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd gan gynnwys y Senedd a’r Pierhead, ein gwasanaeth cyfathrebu allanol ac addysg, a chefnogi’r Cynulliad wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei phenderfyniadau polisi a gwario - hefyd yn hollbwysig ar gyfer trafodaethau gwybodus ac ystyriaeth effeithiol o’r ddeddfwriaeth. Rydym wedi gwella ein capasiti ac ansawdd ein gwasanaethau

yn sylweddol ym mhob un o’r meysydd hyn i gyd yn ystod oes y Trydydd Cynulliad.

 

O ganlyniad, mae staff y Cynulliad yn barod; naill ar gyfer parhau â’r sefyllfa bresennol, neu ar gyfer trosglwyddo pwerau deddfu mewn meysydd datganoledig ar yr un pryd, a hynny’n dibynnu ar benderfyniad etholwyr Cymru mewn refferendwm.

 

Mae llwyddiannau’r flwyddyn yn sylweddol, a hynny ar adeg pan oedd arian cyhoeddus yn dod o dan bwysau cynyddol. Maent yn dyst i broffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff. Drwy gyfrwng sgiliau ac ymroddiad ein staff, ein pwyslais ar lywodraethu corfforaethol cryf, a thynnu ynghyd fel tîm, rwy’n credu ein bod wedi gallu taro ar y cydbwysedd cywir rhwng darparu gwasanaethau craidd o ansawdd uchel a gwerth am arian cyhoeddus. Rwy’n

falch o gael bod yn rhan o’r tîm hwnnw.

 

Claire Clancy

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y flwyddyn mewn ffigurau

 

122,910      Nifer yr ymwelwyr â’r Senedd yn ystod y flwyddyn.

 

17              Cyfartaledd nifer y ceisiadau ar gyfer pob swydd a hysbysebir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

5                Lefel y Ddraig Werdd a ddyfarnwyd i’r Cynulliad o ganlyniad i raglen o wella parhaus. Mae’r Cynulliad yn un o ddim ond 11 sefydliad yng Nghymru i gael yr achrediad hwn.

 

18,865        Nifer yr ymholiadau ffôn a dderbyniwyd gan y Cynulliad.

 

64              Nifer y Cyfarfodydd Llawn a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.

 

18               Canran y gostyngiad yn allyriadau teithio’r Cynulliad o ganlyniad i lawer llai o deithiau mewn awyren, cyflwyno car ag allyriadau isel at ddefnydd staff a chontract llogi ceir carbon isel.

 

11,653        Nifer yr ymwelwyr â’r arddangosfa gelf a chrefft a gynhaliwyd yn y Senedd yn ystod Eisteddfod yr Urdd.

 

303             Nifer y cyfarfodydd pwyllgor a ddarlledwyd yn fyw ar Senedd.tv. 

 

248            Nifer y digwyddiadau a gynhaliwyd ar ystad y Cynulliad.

 

4,222          Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd.

 

1,000         Nifer yr ymatebion a gafwyd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc fel rhan o’i ymchwiliad i fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

 

885             Nifer y cwestiynau a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog.

 

528            Nifer yr ysgolion o bob rhan o Gymru a ddaeth i’r Cynulliad. 

 

1,744          Nifer y bobl sy’n dilyn y Cynulliad ar Twitter.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cerrig milltir pwysig yn ystod y degfed flwyddyn o ddatganoli 

 

Ebrill 2009

Parhau ag ymgynghoriad helaeth y Cynulliad ag Aelodau, staff a rhanddeiliaid eraill ar sut y gall y Cynulliad fanteisio ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu i ymgysylltu’n well â phobl Cymru. Gwaith yn dechrau ar newidiadau i’n rhwydweithiau TG, a chanfod caledwedd a meddalwedd i sicrhau bod technoleg yn cefnogi gwaith y Cynulliad yn llawn.

 

Mai 2009

Y Cynulliad yn cynyddu ei ymdrechion i gael mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy lansio bws allgymorth amlgyfrwng y Cynulliad, sy’n galluogi pobl ledled Cymru i ddysgu mwy am sut y mae’r Cynulliad yn gweithio, gadael negeseuon fideo ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a rhoi tystiolaeth i ymchwiliadau pwyllgorau’r Cynulliad.

 

Mehefin 2009

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i lifogydd yng Nghymru. Er mwyn sicrhau ei fod yn clywed am yr hyn sy’n digwydd i gymunedau yn ystod llifogydd, mae’r Pwyllgor yn gwahodd pobl i gyflwyno eu straeon, eu ffotograffau a’u fideos fel tystiolaeth. Yn ogystal, mae’n defnyddio bws y Cynulliad er mwyn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan yr ardaloedd a lifogwyd. Y Pwyllgor yn cynhyrchu ffilm fer gan ddefnyddio’r clipiau fideo a recordiwyd, a chymeradwywyd ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2010, gan Lywodraeth Cymru.

  

Mehefin 2009

Lansio log cyhoeddus ar-lein o hawliadau treuliau Aelodau’r Cynulliad ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, sy’n caniatáu i bawb weld, drwy glicio botwm, pa dreuliau y mae eu Haelodau Cynulliad yn eu hawlio. 2,000 o bobl yn edrych ar y tudalennau yn ystod y 24 awr gyntaf.

 

Gorffennaf 2009

Canlyniadau adolygiad annibynnol cynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gyflogau Aelodau’r Cynulliad a lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaethol a staff cymorth, yn cael eu cyflwyno i Lywydd y Cynulliad a’r Comisiynwyr. Comisiwn y Cynulliad yn derbyn pob un o’r 108 argymhelliad yn yr adroddiad Yn Gywir i Gymru ac yn dechrau rhoi’r argymhellion ar waith ar unwaith.

 

Gorffennaf 2009

Y Cynulliad Cenedlaethol, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn lansio Camu Ymlaen Cymru, cynllun i annog grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd. 

 

 

 

 

 

 

 

Awst 2009

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cynnal y prosiect Chi Sy’n Bwysig, a gynlluniwyd i gael barn pobl ifanc am y materion sy’n bwysig iddynt. Dosbarthwyd papurau pleidleisio mewn ffeiriau a digwyddiadau ac fe’i defnyddiwyd gan dros 2,700 o bobl ifanc i nodi mai’r amgylchedd sy’n achosi’r pryder mwyaf iddynt. Mannau diogel i chwarae a chymdeithasu oedd yr ail brif bryder. O ganlyniad, mae’n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac yn lansio ymchwiliad i ddarparu mannau diogel i blant chwarae ynddynt.

 

Hydref 2009

Y Senedd yn dod yn un o adeiladau cyhoeddus mwyaf effeithlon y DU o ran ynni, pan gaiff ei thystysgrif perfformiad ynni ei huwchraddio o ‘C’ i ‘B’.

 

Hydref 2009

Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi cyfraith newydd a fydd yn cryfhau rôl Comisiynydd Safonau’r Cynulliad, wedi i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gyflwyno gan Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

 

Tachwedd 2009

Yn dilyn nifer o achosion, y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’u rheoleiddio. Y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio’r pwerau deddfu i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn. Y Gweinidog yn ymrwymo i wneud hynny, yn dibynnu ar ganlyniad Mesur Aelod preifat a oedd yn mynd rhagddo drwy Dau Dŷ’r Senedd ar y pryd.

 

Rhagfyr 2009

Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn nodi 60 mlynedd ers sefydlu’r Gymanwlad fodern. Dros 130 o wahoddedigion o dros 30 o wledydd y Gymanwlad yn bresennol yn y digwyddiad. 

 

Rhagfyr 2009

Panel annibynnol yn cael y dasg o adolygu’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o nod strategol y Cynulliad o fod yn “sefydliad gwirioneddol dwyieithog”.

 

Ionawr 2010

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei nodi’n rhif 47 yn y 100 uchaf o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU, yn ôl y Mynegai Cydraddoldeb

yn y Gweithle, a gynhyrchir gan fudiad hawliau cyfartal Stonewall. Y llynedd, gosodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhif 73 yn y mynegai. 

 

Chwefror 2010

Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio o blaid refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad. Y cynnig, sy’n argymell refferendwm, yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2009. Roedd angen i fwy na 40 o Aelodau’r Cynulliad gefnogi’r cais am bleidlais refferendwm o blaid y cynnig.  

 

 

Mawrth 2010

Yn dilyn misoedd o adnewyddu helaeth, adeilad brics coch nodedig y Pierhead ar ystad y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn ailagor ei ddrysau yn ei rôl newydd fel atyniad i ymwelwyr a chanolfan unigryw i gynnal digwyddiadau. Yr agoriad yn cael ei ddathlu â Sesiynau cyntaf y Pierhead, yn cynnwys digwyddiadau â George Monbiot yr amgylcheddwr a Kevin McGuire ac Andrew Pierce, newyddiadurwyr gwleidyddol.

 

Mawrth 2010

Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad yn cynnal cyfarfod ffurfiol ym Mrwsel – y tro cyntaf i’r Pwyllgor gyfarfod yn ffurfiol â phedwar Aelod Cymru o Senedd Ewrop i drafod materion Ewropeaidd sydd o

bwys i Gymru. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod 

 

Bydd y flwyddyn sydd i ddod yn gweld y Cynulliad Cenedlaethol

yn gweithredu mewn amgylchedd ariannol sy’n fwy cyfyngedig

nag y bu yn ddiweddar.

 

Ein blaenoriaethau, felly, fydd:

 

-     sefydlu’r Cynulliad fel ffynhonnell awdurdodol a diduedd o wybodaeth ar sut y bydd y refferendwm ar newidiadau i bwerau deddfu’r Cynulliad yn effeithio ar bobl Cymru;

 

-     paratoi ar gyfer etholiad y Pedwerydd Cynulliad – y tro cyntaf i’r Cynulliad gael ei ddiddymu cyn etholiad;

 

-     gwneud yn fawr o botensial y Pierhead fel lleoliad ar gyfer cynnal dadleuon a thrafodaethau i argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli pobl Cymru;

 

-     gwella presenoldeb y Cynulliad ar-lein a thrwy gyfryngau cyfathrebu eraill fel bod ein ffyrdd o gyfathrebu yn gymesur â’n safle fel deddfwrfa Cymru;

 

-     rhoi argymhellion y panel annibynnol, a fu’n adolygu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad, ar waith;

 

-     rhoi pob un o 108 argymhelliad yr adroddiad Yn Gywir i Gymru ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad ar waith erbyn mis Mai 2011; 

 

-     cwblhau’r broses o weddnewid seilwaith technoleg gwybodaeth y Cynulliad, gan gynnwys cyflwyno system a fydd yn gwneud gwaith y Cynulliad a gwybodaeth a dogfennau ategol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd; a

 

-     sicrhau na fydd effaith andwyol ar dempo gweithredu swyddogaethau deddfu, craffu a chynrychioli’r Cynulliad o ganlyniad i hinsawdd ariannol mwy cyfyngedig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

 

Aelodau’r Cynulliad

Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, sy’n

cynrychioli ardaloedd penodol yng Nghymru, a hynny fel aelod

o blaid wleidyddol arbennig (y Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru) neu fel Aelodau annibynnol.

 

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol

Sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2007 i sicrhau bod

gan y Cynulliad yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen

i ymgymryd â’r rôl yn effeithiol ac yn effeithlon.

 

Y Comisiwn yw corff corfforaethol y Cynulliad. Mae’n pennu ei nodau, safonau, gwerthoedd ac amcanion strategol ac yn ystyried perfformiad yn erbyn y targedau hyn, yn goruchwylio newid ac yn annog arloesi a menter yn y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys y Llywydd,

a phedwar Aelod Cynulliad arall, a enwebir gan bob un o’r pedwar grŵp gwleidyddol. Mae’r pum Comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â swyddogaethau’r Comisiwn.

Er mwyn helpu i gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae’r

Comisiynwyr yn gyfrifol am bortffolios trawsbynciol. 

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau’r Comisiynwyr ar y wefan. 

 

Bwrdd Rheoli’r Cynulliad Cenedlaethol 

 

Claire Clancy             Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad 

 

Dianne Bevan           Prif Swyddog Gweithredu

Non Gwilym               Pennaeth Cyfathrebu Allanol

Steven O’Donoghue   Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad

Connie Robertson      Pennaeth Ystadau’r Cynulliad a TGCh 

 

Adrian Crompton      Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Sulafa Halstead         Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad 

Mair Parry-Jones        Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

Kathryn Potter           Pennaeth Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau

Siân Wilkins               Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Deddfwriaeth

 

Keith Bush                Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol 

 

Ian Summers             Pennaeth yr Uned Gorfforaethol

Craig Stephenson     Pennaeth y Rhaglen Newid 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Deddfwrfa sy’n aeddfedu – degawd o ddatganoli

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi degawd o ddatganoli yng Nghymru. Er mwyn nodi’r achlysur hwn, edrychwn yn ôl dros ddegawd pan ddatblygodd y Cynulliad yn ddeddfwrfa gadarn ac aeddfed i Gymru.

 

Sut y sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Mai 1997, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig dros Lywodraeth Lafur a oedd wedi datgan ymrwymiad yn ei maniffesto i greu cynulliad datganoledig yng Nghymru. Yn fuan wedi hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Bapur Gwyn, Llais dros Gymru, a oedd yn nodi cynigion ar gyfer cynulliad

cenedlaethol i Gymru.

 

Yn unol â hynny, ym mis Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru, yn gwahodd pobl i bleidleisio ar ddyfodol datganoli ein gwlad. Yn dilyn canlyniad cadarnhaol y refferendwm, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

 

Felly, ar 6 Mai 1999, cynhaliwyd yr etholiadau ar gyfer y Cynulliad cyntaf, a throsglwyddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru bwerau a chyfrifoldebau i’r Cynulliad ar 1 Gorffennaf 1999. Hwn oedd y cam cyntaf ar daith gyffrous, a heriol ar adegau, i’r Cynulliad.

 

Pan sefydlwyd y Cynulliad yn wreiddiol, yn wahanol i Senedd yr Alban, nid oedd gan y Cynulliad unrhyw bwerau i ddeddfu dros Gymru. Yn lle hynny, cafodd bwerau penodol i wneud yr hyn a alwyd yn is-ddeddfwriaeth, a oedd fel arfer yn ymwneud â newidiadau manwl i’r gyfraith a wnaed o dan bwerau o Ddeddf Seneddol a oedd eisoes yn bodoli. Gellid gwneud y cyfreithiau hyn mewn meysydd penodol, fel amaethyddiaeth, iechyd ac addysg, a dirprwywyd mwyafrif y pwerau hyn i Weinidogion Cymru.

 

Rhoddwyd pwerau ychwanegol i wneud is-ddeddfwriaeth i’r Cynulliad drwy amrywiol Ddeddfau Seneddol.

 

Adolygu Gweithdrefn y Cynulliad

Ym mis Gorffennaf 2000, ychydig dros flwyddyn ar ôl sefydlu’r Cynulliad, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai grŵp o Aelodau’r Cynulliad o bob plaid wleidyddol yn cael ei sefydlu i adolygu gweithdrefnau’r Cynulliad.

 

Roedd adroddiad y grŵp yn argymell – cyhyd ag y bo hynny’n bosibl o dan delerau Deddf Llywodraeth Cymru – y dylid gwahanu’r ddeddfwrfa a’r gweithrediaeth, ac roedd y Cynulliad yn cytuno â hyn. Felly, llai na dwy flynedd ar ôl sefydlu’r Cynulliad, dechreuodd edrych, yn weithredol, fel y ddeddfwrfa sy’n gyfarwydd i ni heddiw.

 

 

 

 

 

Comisiwn Richard

Yn 2002, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fwriad i sefydlu Comisiwn Richard (a enwyd ar ôl y cadeirydd, yr Arglwydd Richard) i drafod pwerau’r Cynulliad. Argymhellodd y Comisiwn y dylid cael Cynulliad deddfu yng Nghymru (yn debyg i Senedd yr Alban) â phwerau deddfu sylfaenol mewn perthynas â phob mater, heblaw am faterion a gadwyd yn ôl. Roedd hefyd yn argymell y dylid ailstrwythuro’r Cynulliad, gan ffurfio deddfwrfa a gweithrediaeth ar wahân i’w gilydd.

 

Yn dilyn trafodaeth ar adroddiad y Comisiwn yn y Cyfarfod Llawn, galwodd y Cynulliad ar Brif Weinidog Cymru i gyflwyno sylwadau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn gweithredu argymhellion y Comisiwn.

 

Nid oedd llawer o gynnydd mewn perthynas â’r argymhellion hyn tan 2005, pan gyhoeddwyd maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer etholiad cyffredinol mis Mai 2005 a oedd yn ymrwymo i ddatblygu datganoli ymhellach er mwyn creu Cynulliad cryfach gyda mwy o bwerau deddfu a strwythur diwygiedig.

 

Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru

Ym mis Mehefin 2005, cyhoeddwyd y Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd yn cynnwys cynnig i gael pwerau ehangach a chynnig i drosglwyddo pwerau deddfu sylfaenol dros bob pwnc datganoledig yn uniongyrchol i’r Cynulliad ar adeg amhenodol yn y dyfodol.

 

Roedd y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys addewid: nes bod y cynigion yn y papur yn cael eu gweithredu drwy basio Deddf Seneddol, byddai Llywodraeth y DU yn drafftio Mesurau Seneddol mewn ffordd a fyddai’r rhoi pwerau ehangach a mwy goddefol i benderfynu ar fanylion o ran sut y dylid gweithredu polisïau yng Nghymru. Galwyd y pwerau hyn yn ‘bwerau fframwaith’, ac roeddent yn rhoi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Ar 28 Mehefin 2005, sefydlodd y Cynulliad y Pwyllgor ar Drefn Lywodraethu Well i Gymru i ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn a chyflwyno adroddiad arnynt. Roedd argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio’n bennaf ar faterion gweithredol a llywodraethu yn y Cynulliad newydd. Anfonwyd yr adroddiad at Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel ymateb ffurfiol y Cynulliad i’r Papur Gwyn gan geisio dylanwadu ar y gwaith o ddrafftio’r Mesur Seneddol (hynny yw, Mesur Seneddol Llywodraeth Cymru) a fyddai’n gweithredu cynigion y Papur Gwyn.

 

Y Cynulliad heddiw

Daeth Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i rym ym mis Mai 2007 ac roedd yn nodi carreg filltir bwysig yn hanes y Cynulliad, gan newid tirwedd ddeddfwriaethol Cymru. Creodd Gynulliad newydd; deddfwrfa gyflawn yn meddu ar y pwerau i ddeddfu dros Gymru (a elwir yn Fesurau Cynulliad) mewn meysydd penodol, a darparodd ffordd i’r Cynulliad gael mwy o bwerau gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig o gyfrifoldeb deddfwriaethol.

 

 

Cyflawniadau deddfwriaethol yn ystod y Trydydd Cynulliad

 

Yn fuan iawn, dechreuodd y Cynulliad, a’i gyfansoddiad newydd, ddefnyddio ei bwerau estynedig. Lai na dau fis ar ôl etholiadau’r Cynulliad, cyflwynwyd Mesur arfaethedig cyntaf y Cynulliad, y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru), gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyfeiriwyd at bwyllgor

er mwyn craffu arno.  

 

Ar ôl cwblhau ei daith drwy’r Cynulliad yn llwyddiannus, ar 6 Mai 2008, daeth y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG yn gyfraith yn swyddogol - y gyfraith Gymreig gyntaf i gael ei phasio ers y degfed ganrif.

 

Ers mis Mai 2007, cyflwynwyd 11 Mesur arfaethedig gan Lywodraeth Cymru, ac mae chwech ohonynt eisoes wedi dod yn gyfraith. Mae’r pump sy’n weddill yn mynd rhagddynt drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd neu’n aros i gael eu cymeradwyo gan y Frenhines. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfreithiau newydd hyn yn deddfu ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol. 

 

Er mwyn deddfu mewn meysydd penodol nad oedd gan y Cynulliad eisoes y pŵer angenrheidiol mewn perthynas â hwy, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 14 Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig (Gorchmynion), ac mae wyth ohonynt wedi cael eu gwneud, gan ymestyn pwerau’r Cynulliad ymhellach. Mae’r pump Gorchymyn sy’n weddill yn mynd rhagddynt drwy’r Cynulliad neu Senedd y DU ar hyn o bryd, neu’n aros i gael Cymeradwyaeth Frenhinol gan y Frenhines.

 

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol llwyddiannus cyntaf

Ym mis Mehefin 2007, gosodwyd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf erioed, mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, gerbron y Cynulliad gan y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg. Ym mis Gorffennaf 2007, sefydlwyd pwyllgor gan y Cynulliad i ystyried y Gorchymyn arfaethedig a chyhoeddi adroddiad arno. Cymeradwywyd y Gorchymyn drafft gan y Cynulliad ym mis Chwefror 2008, yna cafodd ei gymeradwyo gan Ddau Dŷ’r Senedd, a’i wneud gan y Frenhines ym mis Ebrill 2008. 

 

O’r Gorchmynion o gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu gwneud hyd yma, mae saith wedi arwain at Fesurau arfaethedig. Mae tri ohonynt wedi cael eu cymeradwyo eisoes ac mae’r pedwar sy’n weddill yn cael eu hystyried gan y Cynulliad ar hyn o bryd, neu’n aros i gael cymeradwyaeth Frenhinol.  

 

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cyntaf i arwain at Fesur Cynulliad

Ym mis Tachwedd 2007, gosodwyd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gerbron y Cynulliad, mewn perthynas â chodi tâl am ofal cartref, gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Rhagfyr 2007, sefydlwyd pwyllgor gan y Cynulliad i graffu ar y Gorchymyn arfaethedig.

 

 

 

 

 

 

Wrth gyflawni ei waith, bu’r pwyllgor yn gweithio gyda Phwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, drwy gynnal sesiwn graffu ar y cyd ym Mae Caerdydd, i gasglu tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog.  Cymeradwywyd y Gorchymyn drafft gan y Cynulliad ym mis Mai 2008, yna cafodd ei gymeradwyo gan Ddau Dŷ’r Senedd, a’i wneud gan y Frenhines ym mis Gorffennaf 2008.

 

Yn sgil y Gorchymyn hwn, roedd Llywodraeth Cymru’n gallu cyflwyno’r Mesur arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru). Wedi iddo gwblhau pob cyfnod o broses deddfu’r Cynulliad, daeth yn gyfraith ym mis Mawrth 2010. 

 

Balot ar gyfer cynigion deddfwriaethol 

Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn rhoi’r cyfle i Aelodau’r Cynulliad gyflwyno eu cynigion deddfwriaethol eu hunain, yn dilyn llwyddiant mewn balot a gynhelir gan y Llywydd. 

 

Ers 2007, cynhaliwyd 11 balot (tri yn 2007, pedwar yn 2008, tri yn 2009, ac un yn 2010 hyd yma). Mae’r rhain wedi arwain at 20 o gynigion, sydd wedi arwain, hyd yma, at ddau Orchymyn arfaethedig a thri Mesur arfaethedig.

 

O’r cynigion a gyflwynwyd, mae un Gorchymyn (yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd meddwl) wedi’i wneud ac mae un Mesur (Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009) wedi’i gymeradwyo. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol, oherwydd mewn seneddau eraill mae’n anarferol i ddeddfwriaeth sy’n cael ei arwain gan Aelod gyrraedd y pwynt lle mae’n dod yn gyfraith. 

 

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Aelod cyntaf i gael ei wneud gan y Frenhines

Ym mis Hydref 2007, roedd Jonathan Morgan AC yn llwyddiannus mewn balot a gynhaliwyd gan y Llywydd i gyflwyno cynnig i ychwanegu at gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Yn dilyn cytundeb y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gosododd Jonathan Morgan AC ei Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd meddwl ym mis Chwefror 2008. Yn yr un mis, sefydlwyd pwyllgor gan y Cynulliad i graffu ar y Gorchymyn arfaethedig. Cymeradwywyd y Gorchymyn drafft gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2009, yna cafodd ei gymeradwyo gan Ddau Dŷ’r Senedd, a’i wneud gan y Frenhines ym mis Chwefror 2010. 

 

Yn sgil y Gorchymyn hwn, roedd Llywodraeth Cymru’n gallu cyflwyno’r Mesur arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru). Cafodd ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2010 ac ar hyn o bryd mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yn craffu arno. 

 

Y Mesur arfaethedig Aelod cyntaf i ddod yn gyfraith Cymru

Ym mis Mehefin 2007, roedd Jenny Randerson AC yn llwyddiannus yn y balot cyntaf a gynhaliwyd gan y Llywydd i gyflwyno cynnig am gyfraith newydd yng Nghymru. Yn dilyn cytundeb y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, cyflwynodd Jenny Randerson AC y Mesur arfaethedig Bwyta’n iach mewn Ysgolion (Cymru) ym mis

Mawrth 2008. 

 

Ym mis Ebrill 2008, sefydlwyd pwyllgor gan y Cynulliad i graffu ar y Mesur arfaethedig. Wedi iddo gwblhau ei daith drwy’r Cynulliad yn llwyddiannus, cafodd y Mesur ei gymeradwyo gan y Frenhines ym mis Hydref 2009 a daeth yn gyfraith yn swyddogol. Hwn oedd y cynnig  deddfwriaethol cyntaf, heblaw am gynigion y Llywodraeth,i ddod yn gyfraith Cymru.

 

Is-ddeddfwriaeth yn y Trydydd Cynulliad

Un newid sylweddol a ddaeth yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006 oedd bod gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na’r Cynulliad, gyfrifoldeb am wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Fel yn y Cynulliad Cyntaf a’r Ail Gynulliad, sefydlwyd pwyllgor i graffu ar is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru, sef y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth. Yn wahanol i’w ragflaenwyr, gall y Pwyllgor hwn nawr ystyried materion eraill, fel pa mor briodol yw’r darpariaethau mewn Mesurau’r Cynulliad a Mesurau Seneddol sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. 

 

Wrth ymgymryd â’r rôl hon, hyd yma mae’r Pwyllgor wedi adrodd ar chwech Mesur Seneddol, gan gynnwys y Mesur Seneddol ynghylch Tlodi Plant a’r Mesur Seneddol ynghylch Rheoli Llifogydd a Dŵr. Caiff adroddiadau’r Pwyllgor eu hanfon at Aelodau Seneddol Cymru ac Aelodau Cymru o Dŷ’r Arglwyddi, yn ogystal â’r Gweinidog perthnasol yng Nghymru, mewn ymgais i ddylanwadu ar

y ddeddfwriaeth cyn iddo ddod yn gyfraith. 

 

Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig

Rhaid i rai mathau o is-ddeddfwriaeth, fel arfer y rhai sy’n benodol i ddarn o dir arbennig, ddilyn gweithdrefn Cynulliad arbennig. Mae’r weithdrefn hon yn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd, y gall y penderfyniad effeithio arnynt, gyflwyno deiseb i’r Llywydd. Gellir cyfeirio’r ddeiseb at un o bwyllgorau’r Cynulliad i gael ei hystyried, er mwyn i’r pwyllgor benderfynu a ddylid gwneud y ddeddfwriaeth.   

 

Ym mis Gorffennaf 2008, sefydlwyd y Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig i ystyried deiseb a ddaeth i law’r Llywydd gan Gyngor Sir Penfro a Mr K Jones yn erbyn deddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad (Gorchymyn drafft Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) a fyddai’n golygu adeiladu ffordd osgoi newydd yn Sir Benfro. Hwn oedd y darn cyntaf o is-ddeddfwriaeth i fod yn destun y weithdrefn Cynulliad arbennig.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Rhagfyr 2008 ac argymhellwyd y dylai Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer i wneud i Gorchymyn drafft, a fyddai’n galluogi iddynt fwrwymlaen â’r ffordd osgoi arfaethedig.

 

Craffu ar Fesurau Seneddol Llywodraeth y DU

Yn ogystal, mae’r Cynulliad wedi bod yn craffu’n barhaus ar Fesurau Seneddol sy’n trosglwyddo’r pŵer i wneud Mesurau i’r Cynulliad (sef ‘pwerau fframwaith’); Mesurau Seneddol sy’n cynnwys darpariaethau penodol ar gyfer Cymru; a Mesurau Seneddol sy’n trosglwyddo pwerau i Weinidogion Cymru.  

 

 

 

Yn ystod y Trydydd Cynulliad, mae Pwyllgorau’r Cynulliad wedi adrodd ar y Mesurau Seneddol neu’r Mesurau Seneddol drafft

a ganlyn:

 

-     Goblygiadau’r Mesur drafft ynghylch Rheoli Llifogydd a Dŵr

-     Gwaith craffu ar Fesur Newid yn yr Hinsawdd y DU: y goblygiadau ar gyfer Cymru

-     Gwaith craffu ar Fesur Cynllunio’r DU: y goblygiadau ar gyfer Cymru

-     Craffu ar y Mesur Morol drafft: y goblygiadau ar gyfer Cymru

-     Y Mesur drafft ynghylch Prentisiaethau

-     Y Mesur ynghylch Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu

-     Goblygiadau’r Mesur Morol ar gyfer Cymru

-     Y Mesur Seneddol ynghylch Cydraddoldeb

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adolygiad o’r flwyddyn ddeddfwriaethol hon

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad wedi parhau i symud ymlaen yn gyflym o ran deddfwriaeth. Daeth y Mesur arfaethedig Aelod cyntaf, a gyflwynwyd gan Jenny Randerson AC, yn gyfraith ym mis Hydref 2009. Daeth y Mesur arfaethedig Pwyllgor cyntaf, a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn gyfraith ym mis Rhagfyr 2009, a daeth y Gorchymyn arfaethedig Aelod cyntaf, a gyflwynwyd gan Jonathan Morgan AC, ei wneud ym mis

Chwefror 2010.

 

Y Mesur arfaethedig Pwyllgor cyntaf yn dod yn gyfraith Cymru 

Ym mis Mawrth 2009, cyflwynwyd Mesur arfaethedig Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Jeff Cuthbert AC, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ar ôl iddo gwblhau ei daith drwy’r Cynulliad yn llwyddiannus, cymeradwywyd y Mesur gan y Frenhines ar 9 Rhagfyr a daeth yn gyfraith yn swyddogol.

 

Mae’r Mesur yn gosod swydd y Comisiynydd Safonau ar sail statudol. Bydd yn sicrhau y bydd y Comisiynydd, unwaith iddo gael ei benodi, yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad, ac felly y gall ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad mewn modd hollol wrthrychol. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd i’w alluogi i ymchwilio i gwynion yn drwyadl, gan gynnwys y pŵer i fynnu bod trydydd partïon yn darparu’r wybodaeth berthnasol.

 

Yn ogystal, cafodd y Mesur arfaethedig Comisiwn cyntaf ei gyflwyno i’r Cynulliad ym mis Hydref 2009. 

 

Cyflwyno Mesur arfaethedig cyntaf y Comisiwn i’r Cynulliad

Ym mis Hydref 2009, cyflwynwyd Mesur arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) i’r Cynulliad gan y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad. Os caiff ei wneud yn gyfraith, bydd y Mesur yn sefydlu Bwrdd annibynnol i benderfynu ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad a chymorth ariannol arall sydd ar gael iddynt.

 

Ym mis Tachwedd 2009, cyfeiriwyd y Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 er mwyn i’r Pwyllgor graffu arno. Ar hyn o bryd, mae’r Mesur arfaethedig yn mynd rhagddo drwy’r Cynulliad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gosod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i gael ei gyflwyno gan bwyllgor craffu

Gosododd y Pwyllgor Menter a Dysgu Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) a’r Memorandwm Esboniadol ym mis Mehefin 2009. Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn arwain at osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i greu a chynnal rhwydwaith o lwybrau diogel yn bennaf ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Hwn yw’r Gorchymyn cyntaf sy’n deillio’n uniongyrchol o’r broses ddeisebau. Ym mis Tachwedd 2009, cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog i gefnogi’r Gorchymyn arfaethedig ac i hwyluso ei daith drwy Whitehall ar yr amod na fyddai trafodaethau’n dechrau tan fis Mawrth 2010. Y gobaith yw y bydd trafodaethau rhwng staff y Cynulliad a swyddogion perthnasol y Llywodraeth yn sicrhau y bydd y pwerau angenrheidiol yn cael

eu trosglwyddo cyn dechrau’r Pedwerydd Cynulliad.

 

Ym mis Chwefror 2010, rhoddwyd enw newydd ar y Pwyllgor

Is-ddeddfwriaeth, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol. Diben newid yr enw oedd adlewyrchu cylch gwaith y Pwyllgor yn well, gan ei fod, erbyn y Trydydd Cynulliad, yn ymestyn y tu hwnt i graffu ar is-ddeddfwriaeth. Ym mis Tachwedd 2009, dechreuodd y Pwyllgor ymchwiliad i sut y mae pwerau deddfu’r Cynulliad wedi datblygu ers 2006. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, mae’r Pwyllgor yn ystyried sut y mae datblygiad pwerau’r Cynulliad wedi effeithio ar  ddealltwriaeth y cyhoedd o’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth gan amrywiaeth o dystion, gan gynnwys arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol, sefydliadau sy’n cynrychioli elfennau pwysig o fywyd cyhoeddus, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin a Gweinidogion Cymru.   

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i chwilio am ffyrdd o gynnwys y cyhoedd yn y broses ddeddfu, gan gynnwys gwaith pwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad. Rydym wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o hyrwyddo gwaith y pwyllgorau deddfwriaeth, gan ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, e.e. Facebook, YouTube a Twitter, mewn ymgais i gyrraedd cynulleidfa ehangach, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae timau allgymorth y Cynulliad a bws y Cynulliad wedi cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am sut y mae’r Cynulliad yn deddfu ar gyfer Cymru, ac i gymryd rhan yn y broses honno. 

 

Ymgynghoriad ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yr Iaith Gymraeg

Yn ystod y broses ymgynghori ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yr Iaith Gymraeg, yn ogystal â gwahodd sefydliadau allweddol sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg, ceisiodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach drwy ddefnyddio ymgyrch bosteri. Dosbarthwyd y poster i lyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ledled Cymru mewn ymgais i gysylltu â chymaint o bobl â phosibl. O ganlyniad i hyn, cafodd y Pwyllgor 70 ymateb gan unigolion yn ogystal â’r 70 ymateb a gafwyd gan sefydliadau.   

 

 

 

 

Ymgynghoriad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Lywodraethu Ysgolion 

Yn ystod yr ymgynghoriad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Llywodraethu Ysgolion, defnyddiodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 dudalennau Facebook y Cynulliad i annog mwy o ddiddordeb yn ei waith ymysg y cyhoedd.

 

Craffu ar ddeddfwriaeth mewn cyd-destun ehangach

Yn ogystal â gwneud cyfreithiau ar gyfer Cymru a chraffu arnynt, mae’r Cynulliad hefyd yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o graffu ar gyfreithiau a wneir gan ddeddfwrfeydd eraill - yn benodol y cyfreithiau a allai effeithio ar Gymru.  

 

Ar 25 Ionawr 2010, cyhoeddodd DEFRA y Mesur Seneddol drafft ynghylch Iechyd Anifeiliaid er mwyn craffu arno cyn y broses ddeddfu. Er ei fod yn ymdrin yn bennaf â symud ymlaen â’r cynigion ar gyfer rhannu cyfrifoldebau yn Lloegr drwy sefydlu’r Sefydliad Iechyd Anifeiliaid, roedd gan rai cymalau yn y Mesur drafft oblygiadau ar gyfer Cymru.

 

O ganlyniad, dilynwyd hynt y Mesur yn ofalus gan Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad, a gallai benderfynu eto i ystyried y Mesur Seneddol yn fwy manwl os a phan gaiff ei gyflwyno yn ffurfiol i Senedd y DU.  

 

Yn ogystal, bu’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn craffu ar Fesur Seneddol drafft Llywodraeth y DU ynghylch Rheoli Llifogydd a Dŵr, gan nodi anghysondeb mewn perthynas â rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau seilwaith dŵr mawr (gan gynnwys cronfeydd) yng Nghymru. Nodwyd yr anghysondeb gan y Gweinidog a sicrhawyd ei fod wedi’i gywiro yn y Ddeddf a ddilynodd.

 

Ar gais Pwyllgor Dethol Arloesedd, Prifysgolion, Gwyddoniaeth a Sgiliau Tŷ’r Cyffredin, ymatebodd y Pwyllgor Menter a Dysgu i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Mesur Seneddol drafft ynghylch Prentisiaethau, a gafodd ei ddrafftio i fod yn gymwysi Loegr yn unig. Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y byddai cymalau Cymreig yn cael eu cynnwys yn y Mesur Seneddol. Bu’r Pwyllgor yn holi John Griffiths AC, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2010.

 

Teimlai’r Pwyllgor fod y broses ddeddfu a ddefnyddir i gynnwys cymalau Cymreig mewn Mesur Seneddol mawr yn anfoddhaol ac nad oedd yn gadael llawer o gyfle ar gyfer craffu trylwyr, naill ai yn San Steffan nac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nododd Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin y bu’r ymgynghoriad ar weithredu prentisiaethau yng Nghymru, ac ar gymhwyso’r ddeddfwriaeth drafft i Gymru, yn amlwg yn annigonol. Argymhellodd, felly, fod y Llywodraeth yn cywiro’r diffyg hwnnw cyn i ddarpariaethau’r Mesur Seneddol drafft gael eu cadarnhau.   

 

 

 

 

 

 

Y Cynulliad a deddfwriaeth Ewropeaidd

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad yn cadw llygad ar gynigion deddfwriaethol yr UE sydd ar y gweill, yn ystyried rhaglen waith a deddfwriaeth flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd bob blwyddyn, yn cynnal ei ymchwiliadau ei hun ac yn cyfeirio materion at bwyllgorau eraill y Cynulliad fel y bo’n briodol.

 

Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol adroddiad interim ar y Gyfarwyddeb ddrafft ar Hawliau Cleifion yng Ngofal Iechyd Trawsffiniol.

 

Bu hefyd yn ystyried goblygiadau protocol sybsidiaredd a chymesuredd Cytuniad Lisbon ar gyfer Cymru.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi bod yn gwneud gwaith craffu cyn deddfu cynnar ar ddyfodol polisi cydlyniant yr UE, a fydd yn arwain at gynigion deddfwriaethol sydd â goblygiadau sylweddol i Gymru.   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyfodol deddfwriaeth yng Nghymru

 

Mae’r flwyddyn olaf mewn Cynulliad o bedair blynedd yn wahanol i’r blynyddoedd eraill gan fod terfyn amser pendant ar gyfer cymeradwyo deddfwriaeth. Bydd deddfwriaeth nad yw wedi’i chymeradwyo pan fydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu cyn etholiad 2011 yn disgyn. O ystyried hyn, mae’n debygol y bydd deddfwriaeth yn parhau i gael ei gyflwyno ar frys i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau ac i alluogi

Aelodau sydd â chynigion unigol i sicrhau eu bod yn llwyddiannus cyn i’r Cynulliad gael ei ddiddymu.   

 

Wrth i ddiwedd y Trydydd Cynulliad agosáu, rydym yn dechrau paratoi ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o strwythurau a systemau gweithredu’r pwyllgorau ac o weithdrefnau a phrosesau deddfwriaethol. Yn ei dro, bydd hyn yn llywio adolygiad o Reolau Sefydlog y Cynulliad.  

 

Refferendwm ar bwerau’r Cynulliad

Sefydlwyd Confensiwn Cymru Gyfan gan Lywodraeth Cymru i ganfod barn y cyhoedd am gael mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad.

 

Ym mis Hydref 2007, penodwyd Syr Emyr Jones Parry yn gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog. Yn gyffredinol, rôl y Confensiwn oedd codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru

a’r darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y bwriad oedd hwyluso ac annog trafodaeth gyhoeddus ar yr opsiynau ar gyfer deddfu yng Nghymru yn y dyfodol ac asesu lefel y gefnogaeth ar gyfer yr opsiynau hyn.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Confensiwn i’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Tachwedd 2009.

 

Daeth y Confensiwn i’r casgliad y byddai symud at bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad yn yr holl feysydd datganoledig yn cynnig mantais sylweddol dros y trefniadau presennol. Yn dilyn hyn, ar 9 Chwefror 2009, cytunodd y Cynulliad ar gynnig ffurfiol ar gyfer refferendwm, sy’n golygu argymell i’r Frenhines bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cael ei wneud (sef Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 103 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) i ganiatáu

i refferendwm gael ei gynnal. 

 

Ers hynny, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi gwybod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am gynnig y Cynulliad. Nawr rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai osod deddfwriaeth ddrafft yn cynnwys Gorchymyn gerbron dau Dŷ’r Senedd, neu ysgrifennu at y Prif Weinidog i roi gwybod iddo ei bod wedi gwrthod y cynnig, gan roi ei rhesymau

dros wneud hynny.   

 

Yn amodol ar gymeradwyo’r Gorchymyn gan y Cynulliad a dau Dŷ’r Senedd, ac ar y Frenhines yn gwneud y Gorchymyn, bydd refferendwm yn cael ei gynnal. 

 

Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai o’r pynciau yn yr 20 maes sydd wedi’u datganoli.

 

Gall y Cynulliad ennill mwy o bwerau deddfu yn y meysydd hynny gyda chytundeb Senedd y DU, a hynny fesul pwnc.

 

Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio’n gadarnhaol yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi’u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y DU yn gyntaf.

 

Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio’n negyddol, bydd y trefniadau presennol yn parhau.

 

Mae’n debygol y bydd y refferendwm hwn yn cael ei gynnal yn 2011.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pierhead – argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli

 

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfrannodd y Pierhead at danio hunaniaeth Cymru ‘wrth ddŵr a thân’; ei nod heddiw yw argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i’n harwain tuag at Gymru’r dyfodol.

 

Ar 1 Mawrth, ar ôl misoedd o waith adnewyddu sylweddol, ailagorwyd adeilad nodedig brics coch y Pierhead ar ystad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd, i gyflawni ei rôl newydd fel atyniad i ymwelwyr a chanolfan unigryw i gynnal digwyddiadau.  

 

Cafodd y Pierhead ei ddatblygu gyda chymorth arbenigwyr o’r byd atyniadau, gyda’r nod o ymateb i’r diddordeb brwd ymysg y cyhoedd yn hanes yr adeilad, gan greu lleoliad i gynnal trafodaethau cyhoeddus a digwyddiadau a noddir gan y Cynulliad ar yr un pryd.

 

Mae cyn-gartref Cwmni Rheilffordd Caerdydd nawr yn cynnwys – ymysg nodweddion eraill – arddangosfa barhaol sy’n adrodd hanes y Pierhead a dociau Caerdydd, bwrdd bwyta rhyngweithiol â rhai o bobl mwyaf eiconig Cymru, a nwyddau o long y Capten Scott, y Terra Nova enwog a gychwynnodd hwylio i gyfeiriad yr Antarctig o Gaerdydd ym 1910.

 

O fewn mis i’w agor, ymwelodd bron i 10,000 o bobl â’r Pierhead, gan ei ymsefydlu fel un o brif atyniadau’r brifddinas. Mae digwyddiadau sydd eisoes wedi’u cynnal yn y Pierhead yn cynnwys arddangosfa o waith Philip Jones Griffiths, y ffotonewyddiadurwr o Gymru, a Sesiynau agoriadol y Pierhead.

 

Roedd y sesiynau yn gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau ar faterion gwleidyddol a diwylliannol amrywiol a ddaeth â’r meddylwyr craffaf at ei gilydd i ganolbwyntio ar faterion sy’n effeithio ar Gymru ac ar y byd.

 

Mae Bae Caerdydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn hunaniaeth economaidd a hunaniaeth sifil Cymru ers bron i 200 mlynedd, o’i gyfnod yn un o borthladdoedd mwyaf y byd ar anterth y diwydiant glo i’r cyfnod presennol lle mae’n ganolfan lywodraethu i Gymru ddatganoledig.

 

Mae’r Pierhead wedi bod yn nodwedd ganolog o’r tirlun hwn ers ei adeiladu, ac roedd ei adnewyddu yn brosiect cyffrous yng nghalendr 10 mlynedd y Cynulliad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynulliad mwy tryloyw

 

Ym mis Gorffennaf 2009, symudodd y Cynulliad gam yn agosach at gyflawni ei fwriad o ddod yn sefydliad gwirioneddol tryloyw a hygyrch, pan gafodd ganlyniadau adolygiad annibynnol cynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gyflogau Aelodau’r Cynulliad a’u lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaethol a staff cymorth eu cyflwyno i Lywydd y Cynulliad a’r Comisiynwyr.

 

Yr adroddiad, Yn Gywir i Gymru, oedd canlyniad ymchwiliad deg mis gan banel annibynnol, a gadeiriwyd gan Syr Roger Jones, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o argymhellion ar ôl cymryd tystiolaeth gan aelodau o’r cyhoedd, Aelodau a Chyn-aelodau’r Cynulliad ac aelodau o gyrff yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Edrychodd y panel hefyd ar sut y mae cyrff seneddol eraill, gan gynnwys y rhai yn Queensland a Seland Newydd, yn cynnig taliadau a chymorth ariannol i’w haelodau. 

 

Hwn oedd yr adolygiad cyntaf o sut y gall gynrychiolwyr etholedig hawlio cymorth ariannol i gael ei gyhoeddi yn y DU ers i’r newyddion dorri yn San Steffan am dreuliau Aelodau Seneddol yn gynharach yn y flwyddyn, gan dra-arglwyddiaethu ar benawdau yn y DU a thramor. 

 

Dywedodd Syr Roger Jones, cadeirydd y panel adolygu annibynnol, bod amseriad comisiynu’r adolygiad yn ystod gwanwyn 2008 yn dystiolaeth o ymrwymiad hir sefydlog y Cynulliad i atebolrwydd a thryloywder a dywedodd y bydd gweithredu’r argymhellion a geir yn adroddiad y panel yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelodau’r Cynulliad ail-sefydlu hyder ac ymddiriedaeth pobl Cymru yn y broses ddemocrataidd ddatganoledig.  

 

Un o brif argymhellion yr adroddiad oedd torri’r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith. Nodwyd nad oedd yn fanteisiol nac yn briodol cadw’r cysylltiad hwn. Ar ben hynny, argymhellodd y panel ddileu nifer o daliadau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi, gan gynnwys dileu’r caniatâd i hawlio taliadau llog morgais ar ail gartrefi’r Aelodau yng Nghaerdydd. Awgrymwyd y dylid lleihau nifer yr Aelodau y caniateir iddynt gael ail gartrefi o 51 i 25.

 

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, rhoddwyd 47 o’r 108 argymhelliad ar waith, a bwriedir rhoi’r gweddill ar waith erbyn mis Mai 2011.

 

Yn ogystal, lansiwyd log cyhoeddus ar-lein o hawliadau treuliau Aelodau’r Cynulliad ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin, sy’n caniatáu i bawb weld, trwy glicio botwm, pa dreuliau y mae eu Haelodau Cynulliad wedi eu hawlio.

 

Mae ceisiadau nawr yn cael eu cyhoeddi bob mis, mewn ôl-daliadau o dri mis.